Bu dwsinau o ymladdwyr yn taclo tân a gynheuwyd yn fwriadol ger Llangollen.

Dywedodd Gwasanaeth Tân y Gogledd fod y fflamau wedi lledu ar hyd  50,000 metr sgwâr o eithin a rhedyn ar fynydd Llangollen.

Fe rybuddiodd swyddogion y gallai tanau fel hyn gael effaith andwyol ar fywyd gwyllt a’r amgylchedd. Dywedon nhw hefyd fod cost y digwyddiad a’r defnydd o adnoddau yn enfawr.

Galwyd ar dri criw o Llangollen, y Waun a Johnstown i’r digwyddiad ’chydig funudan cyn 10 o’r gloch neithiwr (nos Wener). Yn hwyrach bu’n rhaid galw ar ddau o griwiau eraill  – o Gorwen a Wrecsam i gynorthwyo – yn oriau mân y bore.

Mae un criw yn dal yna nawr yn cadw gwyliadwraeth gan obeithio na fydd y fflamau yn dechrau eto.

Dywedodd y Prif Swyddog Tan Cynorthwyol Richard Fairhead said:  “Dwi’n erfyn ar bobol i wirioneddol stopio a meddwl am ganlyniadau tanau eithin.

“Mae tanau tebyg yn rhoi pwysau aruthrol ar adnoddau, gyda’n criwiau wedi ymrwymo am gyfnodau hir o amser yn ceisio dod a nhw o dan reolaeth, sy’n golygu fod ymladdwyr tân yn cael eu hatal rhag mynychu digwyddiadau sy’n bygwth bywyd rywle arall.

“Fe wnawn ni ddim goddef tanau gwair a mynydd sy’n cael eu cynnau yn fwriadol. Nid yn unig mae nhw yn dinistrio mynyddoedd a bywyd gwyllt, ond mae nhw hefyd yn peryglu bywydau a golygu fod ein criwiau yn delio gyda tanau a gynheuwyd heb angen.

“Rwyf yn annog y cydoedd i gysylltu efo ni os oes ganddyn nhw unrhyw wybodaeth ynglŷn â sut y dechreuodd y tân neu os welon nhw unrhyw un yn  ymddangos yn amheus.”

Gofynnir i bobol ffonio Heddlu’r Gogledd ar 101 neu Crimestoppers ar 0800 555111.