Mae dyn ifanc yn ei arddegau wedi marw ar ôl dioddef o anafiadau wedi iddo gael ei saethu a’i drywanu mewn digwyddiad yn Llundain.

Dywedodd yr heddlu Scotland Yard eu bod wedi cael eu galw i adroddiadau o grŵp o bobl yn ymladd ar Vincent Road, Wood Green, ychydig cyn 8.10yh neithiwr, nos Wener.

Galwyd ar yr heddlu a chriwiau ambiwlans i’r digwyddiad.

Dywedodd yr heddlu fod dau ddyn, y credir eu bod nhw yn 19 ac 20 oed, wedi eu cymeryd i’r ysbyty gyda anafiadau ar ôl cael eu trywanu. Bu farw y dyn  yn ei arddegau ychydig cyn 3 o’r gloch y bore ’ma.

Ers hynny cafwyd cadarnhad ei fod o hefyd wedi dioddef o anafiadau wedi i ddryll gael ei saethu. Dywedwyd nad oedd anafiadau’r dyn arall yn rhai fyddai’n bygwth ei fywyd.

Caewyd y stryd gan yr heddlu tra roedden nhw’n cynnal rhagor o ymchwiliadau. Dywedodd llefarydd fod cerbyd wedi’i ddifrodi wedi ei ganfod gerllaw.

Mae teulu’r gŵr wedi cael eu hysbysu a bydd archwiliad post-mortem nawr yn cael ei gynnal.

Nid oes neb wedi’u harestio eto ac mae’r heddlu wedi apelio am lygaid dystion.