Mae rhai o gerddorion mwyaf adnabyddus Cymru yn dod at ei gilydd heno (Dydd Gwener, Chwefror 15) i chwarae gig i danio’r sgwrs dros annibyniaeth i’r wlad.

Yn noson ‘Gellir Gwell/Yes is More’ bydd Charlotte Church, Astroid Boys, Boy Azooga, Los Blancos yn chwarae – a Gruff Rhys a Gwenno ar y deciau DJ-io.

Un arall fydd yn diddanu clustiau’r Cymry ac sydd am weld y sgwrsio dros annibyniaeth yn tanio, yw un o’r trefnwyr.

“Diffyg ysbrydoliaeth o Lundain a Chaerdydd, a diffyg asgwrn cefn,” sydd wedi ysgogi Cian Ciarán o’r Super Furry Animals i drefnu’r meddai wrth golwg360.

“Dw i jest wedi cael digon o’r diffyg trafodaeth a chydnabyddiaeth bod systematic neglection yn bodoli yn Westminster erioed,” meddai.

 “Agored i bawb”

Yn ôl Cian Ciarán mae defnyddio celf a cherddoriaeth yn ffordd bwerus o gyfathrebu, ac mae yn ffordd “i’n lleisiau ni gael eu clywed.”

“Mae celf yn ffordd o gyfathrebu efo’r cyhoedd, mae o wastad wedi bod, mae o’n creu awyrgylch, ac mae’n bwerus,” meddai.

Ar ben hynny, mae’n rhywbeth sydd yn “agored i bawb”.

“Yn hanesyddol mae yna gysylltiad rhwng yr iaith ac annibyniaeth ond mae hwn ychydig yn wahanol,” esboniodd.

“Mae’r iaith yn rhan o’r drafodaeth wrth gwrs ac mae’n bwysig ei fod o. Ond mae yna gyfle yn fan yma i ymestyn.

“Tydi o ddim am dan arweinwyr neu unigolion – mae o am drio creu trafodaeth dros Gymru gyfan, a rhywbeth sy’n inclusive.”

Annibyniaeth

Mae Cian Ciarán o’r farn bod pobol Cymru yn araf ddechrau deffro i’r syniad o annibyniaeth, yn enwedig yn sgil Brexit.

“Mae pobol yn dechrau trafod o, eisiau gwybod mwy, ac yn ystyried y cwestiwn mwy,” meddai.

“Mae’r media yn bychanu’r syniad, yn deud ein bod ni rhy dlawd. Ond deuda hynna wrth Falta, Denmarc, neu Wlad yr Iâ – dw i ddim yn derbyn o!”

Dywedodd Cian Ciarán y byddai’n hoffi gwneud rhywbeth yn y gogledd, “bob mis, bob deuddeg mis, ella..”

Ond canolbwyntio ar heno mae’r cerddor ar y foment, “mae’r cwestiwn am gig arall wedi cael ei ofyn, ond gobeithio neith o gymryd ei fywyd ymlaen ei hun – fel dylai Cymru neu rili…”