Mae’n ymddangos yn weddol sicr y bydd Theresa May yn ennill y bleidlais o ddiffyg hyder yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mae’r prif grŵp Brexitwyr Ceidwadol, dan arweiniad Jacob Rees-Mogg, eisoes wedi dweud y byddan nhw’n ei chefnogi hi yn erbyn y Blaid Lafur a’r gwrthbleidiau eraill.

Fe ddaw hynny ar ôl i blaid unolaethol y DUP – sy’n cynnal y Llywodraeth – ddweud y bydden nhwthau hefyd yn cefnogi’r Prif Weinidog.

Pwysau i fynd am refferendwm

Gobaith yr arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, yw y gallai pleidlais o ddiffyg hyder arwain at etholiad cyffredinol.

Os na fydd hynny’n llwyddo, fe fydd dan fwy o bwysau nag erioed i gefogi galwadau am refferendwm arall.

Yn union wedi cael cweir o 432 i 202, fe aeth Theresa May ati i herio Jeremy Corbyn i osod cynnig o ddiffyg hyder – roedd hynny’n awgrymu ei bod hi’n sicr o’i safle a bod sgyrsiau gydag aelodau Ceidwadol wedi cadarnhau hynny.