Dylan Iorwerth yn pwyso a mesur y ‘camgymeriad mawr’…

Roedd Eirwyn Pontsian yn arfer dweud mai’r peth mawr o fod mewn trwbwl oedd trio dod mas ohono.

Doedd Gordon Brown, yn amlwg, ddim yn nabod Eirwyn Pontsian. Ar ôl mynd i dwll, mi fynnodd y Prif Weinidog ddal ati i gloddio ac wedyn, ar ôl dringo allan unwaith, neidio i mewn i’r twll unwaith eto.

Roedd hi’n iawn ymddiheuro am alw dynes yn rhagfarnllyd – bigoted oedd yr union air – ond roedd teithio dwyawr yn ôl i Rochdale ac wedyn treulio 39 munud yn ei thŷ yn mynd tros ben llestri o dros ben llestri.

Dolur rhydd

Pan ddaeth allan, roedd ei ymgais at wenu i ddangos fod popeth yn iawn yn atgoffa dyn o rywun sy’n diodde’ o ddolur rhydd ac sydd newydd sylweddoli ei fod wedi llyncu llond llwy o syrup of figs trwy gamgymeriad.

Ar ryw ystyr, stori fechan ydi hon – y math o beth sy’n dod a mynd ar wib ar ôl codi lot o lwch. Ond mae hefyd yn codi tri phwynt pwysicach.

  • I ddechrau, mae’n awgrymu ychydig o ddirmyg at berson cyffredin a oedd wedi gofyn cwestiwn digon diniwed am fewnfudo – llawer gwaeth na rhai o’r rhagfarnau sydd wedi eu corddi gan wleidyddion.
  • Yn ail, roedd yn awgrymu fod Gordon Brown yn ddauwynebog, yn wên deg a neis-neis o flaen y camerâu, ond yn hollol wahanol yn ‘mhreifatrwydd’ ei gar.
  • Mae’r ddau bwynt yna’n arwain at y trydydd – gwallgofrwydd system sy’n rhoi cymaint o bwyslais ar bersonoliaeth ychydig unigolion ac ar eu gallu i berfformio’n gyhoeddus a phlesio’r cyfryngau.

Dyna pam fod Gordon Brown yn Rochdale yn y lle cynta’ – ymgais i’w gael i gyfarfod â ‘phobol go iawn’. Dyna pam fod Gillian Duffy – pleidleiswraig Lafur – wedi ei llusgo o’i flaen.

Oherwydd y cyfryngau, doedd Gordon Brown ddim yn licio ei bod hi wedi gofyn cwestiwn anghyfforddus – dim ond perffeithrwydd a hyfrydwch sydd i fod. Ac oherwydd hynny, roedd dan y camargraff fod y sgwrs wedi mynd yn wael.

Rhaid i bopeth fod yn hyfryd

Nid galw’r ddynes yn “rhagfarnllyd” oedd y broblem fwya’ ond methu â dweud hynny yn ei hwyneb. Bellach, am fod gwleidyddion yn credu mai plesio’r cyfryngau ydi’r unig nod, roedd rhaid esgus fod popeth yn wych ac yn ticytibŵ.

Dydyn nhw ddim yn fodlon dweud faint o doriadau fydd yna ac yn y dadleuon teledu, maen nhw’n gorfod esgus cytuno gyda phawb sy’n gofyn cwestiwn.

Ar wahân i roi cyfle i drydedd plaid a chreu term Cymraeg uffernol arall – dadl brifweinidogol – prif gyfraniad y rheiny ydi troi’r ymgyrch etholiadol yn fwy arwynebol ac arlywyddol nag erioed o’r blaen.

Ac mae’r straen o orfod bod yn neis-neis trwy’r amser yn gyhoeddus yn troi gwleidyddion yn llai gonest. Gorfod esgus bod yn hyfryd oedd problem Gordon Brown.

Ticytibŵ-hŵ-hŵ.