Staff ambiwlans sydd â’r nifer uchaf o staff ar draws GIG Cymru yn sâl, ac roedd y niferoedd rhwng Ebrill a Mehefin ar ei uchaf ers pedair blynedd.

Mae tua 90% o weithwyr y gwasanaethau brys wedi profi straen a 25% wedi ystyried hunanladdiad, yn ôl ffigyrau diweddar gan Mind Cymru.

Mae’r nifer o swyddogion yr heddlu yng Nghymru sydd yn sâl o’r gwaith oherwydd straen ar eu meddwl wedi dyblu dros y pedair mlynedd ddiwethaf.

Mae staff y gwasanaethau brys yn wynebu trawma yn ddyddiol – fel cael eu galw i ddelio a damweiniau ffyrdd erchyll, hunanladdiadau a phobl wedi niweidio eu hunain. Hefyd, yn achos yr heddlu, mae nhw yn aml yn dioddef ymosodiadau gan y cyhoedd – ac mae nifer fawr o’r swyddogion yn teimlo’r straen.

Yn ôl tystiolaeth gan y swyddogion eu hunain, mae nifer ohonyn nhw yn mynd a’u pryderon gyda nhw gartref ar ddiwedd eu shifft neu ddim yn cael amser i ddelio gyda’u straen cyn cael eu galw allan at ddigwyddiad arall.