Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi trydydd rhybudd tywydd ar gyfer Cymru oherwydd Storm Deirdre.

Mae’r rhybudd ychwanegol, rhybudd melyn o wyntoedd cryfion rhwng 4 o’r gloch heddiw (Sadwrn) a 2 o’r gloch fore Sul ar gyfer siroedd Gwynedd, Môn, Ceredigion a Phenfro

Ddydd Gwener roedd y Swyddfa wedi cyhoeddi dau rybudd tywydd gwahanol.

Roedd un am law a gwyntoedd cryfion ar draws de Cymru ddydd Sadwrn.

Mae rhybudd melyn arall, 24 awr, am eira a rhew ar hyd gogledd a chanolbarth a gogledd Cymru am bara tan 9 o’r gloch fore Sul.

Mae’r rhybudd yna yn effeithio siroedd Wrecsam, Fflint, Dinbych, Conwy a Phowys.

Dydd Sadwrn cafodd yrwyr rybudd y gallan nhw fynd i drafferthion a bod “posibilrwydd” i rai pobl golli cyflenwadau pŵer.

Dywed yr heddlu y dylai gyrwyr ar yr A55 gymryd gofal oherwydd gwyntoedd cryfion.

Yn ôl Traffig Cymru mae’r tywydd yn effeithio ar y ffordd ddeuol rhwng cyffordd 11 yn Llandygai, Gwynedd, hyd at gyffordd 38 yng Nghaer.

Dywedodd Heddlu’r Gogledd eu bod yn ymwybodol fod rhew du ac eira wedi creu peryglon i yrryw ar hyd y ffordd o gwmpas Bwlch yr Oernant a Pen Draw’r Byd yn ardal Llangollen. Mae nhw wedi gofyn i yrrwyr osgoi’r ardal.

Yn y de, cafodd cyflenwadau trydan eu heffeithio yn Llangatwg ger Castell-nedd wedi i goden ddisgyn gan ddifrodi gwifrau trydan.

Mae rhybuddion hefyd y gallai rhai tai ddioddef llifogydd o ganlyniad i’r cawodydd trymion,