Mae ymwelwyr wedi’i symud allan o Sŵ Caer ar ôl tân ddechrau yn ardal y Goedwig Monsŵn o’r atyniad.

Dywedodd llefarydd ar ran y sŵ fod ymladdwyr tân wrthi’n ceisio rheoli’r fflamau.

Mae’r atyniad yn boblogaidd iawn gyda ymwelwyr o Gymru yn ogystal a rhai ledled Ynysoedd Prydain.

Dywed diweddariad ar dudalen Facebook y Sŵ: “Mae ymwelwyr wedi’i symud allan a gofyn iddyn nhw adael y sŵ wrth i dîmau weithio i ddod a’r sefyllfa dan reolaeth.

“Mae tîmau anifeiliaid y sw yn gweithio i symud pob un o’r anifeiliaid i ffwrdd o’r digwyddiad.”