Mae chwech o bobol wedi cael eu sathru i farwolaeth mewn clwb nos yn yr Eidal.

Roedd brys gwyllt i adael yr adeilad ar ôl i rywun chwistrellu sylwedd gwenwynig yn y clwb yn Corinaldo.

Roedd y dorf yno ar gyfer cyngerdd.

Dywed un o’r goroeswyr fod allanfeydd tân yr adeilad ynghau pan geisiodd y dorf adael.