Mae pobol sy’n yfed yn drwm yn fwy tebygol o fod yn rhan o drais os ydyn nhw wedi cael plentyndod anodd, yn ôl ymchwil newydd.

Mae astudiaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor hefyd yn dangos bod y cysylltiad rhwng alcohol, trais a phlentyndod yn fwy cyffredin ymhlith dynion ifanc rhwng 18 a 29 oed.

Dywed ymchwilwyr fod 62% o’r yfwyr trwm a gafodd profiadau anodd pan oedden nhw’n blant, wedi taro rhywun yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

O gymharu, roedd 13.5% o yfwyr trwm na chafodd blentyndod gwael wedi taro rhywun.

Cafodd 12,669 o oedolion, yn ferched a dynion, ledled Cymru a Lloegr eu holi yn rhan o’r astudiaeth.

Dengys yr ymchwil bod y duedd i fod yn dreisgar ymhlith merched yn llai amlwg, er bod un o bob pedair rhwng 18 a 29 a oedd yn yfwyr trwm ac wedi cael plentyndod anodd, wedi bwrw rhywun yn ddiweddar.

Yn ôl yr Athro Mark Bellis o Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae’n bosib bod nifer o’r dynion a’r merched wedi cychwyn yfed yn drwm o ganlyniad i drawma a gawson nhw pan oedden nhw’n blant.