Mae cwmni ffonau symudol, O2, yn dweud y dylai eu gwasanaethau fod yn gweithio eto.

Daw hyn yn dilyn problemau technegol ddoe (dydd Iau, Rhagfyr 6) a rwystrodd filiynau o gwsmeriaid rhag cael mynediad i’r we na gwneud galwadau o’i ffonau symudol.

Roedd y broblem wedi effeithio pobol sy’n defnyddio gwasanaethau Sky, Tesco a Giffgaff, gan fod eu rhwydweithiau nhw hefyd yn defnyddio gwasanaethau O2.

Bu’r cwmni yn gweithio trwy gydol y nos yn ceisio datrys y broblem, cyn i’r holl rwydweithiau gael eu hailosod erbyn yn gynnar y bore yma.

Mae’r cwmni Ericsson wedyn yn dweud mai problemau gyda meddalwedd penodol a achosodd y trafferthion ddoe, ac maen nhw wedi ymddiheuro i gwsmeriaid.