Mae gweinidogion Llywodraeth Prydain wedi cael eu hanfon at wahanol rannau o wledydd Prydain heddiw (dydd Gwener, Rhagfyr 7) er mwyn ceisio ennill cefnogaeth i Gytundeb Brexit Theresa May.

Mae aelodau blaenllaw o’r Cabinet, gan gynnwys y Canghellor, Philip Hammond, a’r Ysgrifennydd Iechyd, Matt Hancock, ymhlith y rheiny a fydd yn ymgyrchu’n frwd ar drothwy’r bleidlais fawr yn y Senedd yr wythnos nesaf (Rhagfyr 11).

Daw’r cam hwn wrth i Aelodau Seneddol gynnig newid i’r Cytundeb Brexit a fydd yn golygu bod ganddyn nhw fwy o reolaeth dros y materion sy’n codi ynglŷn â’r ffin yng Ngogledd Iwerddon.

Bydd y newid yn golygu mai’r Senedd fydd yn penderfynu pryd fydd y trefniant tollau arbennig yn cael ei weithredu yng Ngogledd Iwerddon. Bydd ganddyn nhw hefyd yr hawl i ymestyn y cyfnod pontio, yn ôl y newid.

Fe gafodd y cynnig o newid ei gyflwyno gan yr Aelodau Seneddol, Syr Hugo Swire, Richard Graham a Bob Neill, mewn cam sy’n cael ei ystyried yn ymgais i gryfhau’r gefnogaeth i’r Cytundeb a Llywodraeth Prydain.

Ond does dim arwydd eto bod Aelodau Seneddol sy’n gwrthwynebus i’r Cytundeb yn cefnogi’r newid, ac mae arweinydd y DUP, Arlene Foster, eisoes wedi dweud nad yw’n ddigon.