Tommie Collins
Roedd y ‘Tour of Britain’ yn llwyddiant ynghynt yn y mis, ac mae’r cwmni sy’n trefnu’r ras yn cynnig cyfle i seiclwyr fel fi gael y fraint o seiclo’r un cwrs a’r sêr.

Doeddwn i ddim yn gallu gwneud y cymal o’r Trallwng i Gaerffili ym mis Awst, oherwydd fy mod yn Ffrainc ar fy ngwyliau, ond ddoe roedd y cymal yn Stoke on Trent yn cael ei gynnal.

Roedd yr her ddoe yn 90 milltir, gan ddechrau yng ngerddi Trentham ger Stoke a gorffen yn yr un lle.  Ar bapur, nid oedd i’w weld  mor anodd a rhai eraill rwyf wedi ei wneud.  Roedd rhaid cychwyn yn gynnar o Port – 4.30am i ddechrau’r cymal am  8am.  Roeddwn wedi derbyn y pecyn cofrestru trwy’r post, felly, dim ond atodi’r  ‘timing chip’ (teclun amseru eletroneg) i’r beic oedd rhaid gwneud, a chychwyn mewn grwpiau o 40 gyda phedwar munud rhwng pob un.

Roedd y 30 milltir cyntaf yn eitha’ hawdd,  ond, wedyn dechreuodd yr hwyl! Drag hir ar ôl drag hir – maen nhw’n waeth nag elltydd byr serth.. ond dw i’n gwybod sut i ddioddef. Doedd y gwynt a’r glaw ddim yn helpu chwaith!

Mae rhaid dweud fod y trefniadau’n gampus. Roedd digonedd o fwyd a diod ym mhob gorsaf fwyd, roedd safon yr arwyddion yn wych, doedd dim gobaith o fynd ar goll!

Ar ôl gorffen roedd pasta poeth ar gael, ac yn sicr diwedd y ras oedd yr uchafbwynt! Roedd torf o bobol  y ddwy ochr, ac roedd y linell derfyn yn union fel yr un i’r seiclwyr proffesiynol.

Pan wnaeth y sêr daclo’r cymal yma, fe gymerodd  yr enillydd Lars Boom o’r Iseldiroedd 3 awr a 23 munud i’w chwblhau. Fe gymerais i 6 awr a 26 munud – sut ar y ddaear  maen nhw’n mynd ar y fath  sbîd?

Mae cymaint o’r ‘sportives’ ar y farchnad bellach, nid pob un sy’n rhoi gwerth eich pres i chi.  Dw i’n meddwl fod  £35 yn bris digon teg am y profiad ddoe – cost y rhan fwyaf o brofiadau tebyg ydy £25, ond ydach chi’n cael gwerth eich pres? Felly blwyddyn nesaf- os fyddwch chi’n ddigon dewr i fentro cystadlu mewn ‘sportive’, hwn ydy’r un dwi’n argymell.

Tommie Collins