Bydd y prif gymorthdal sy’n cael ei dalu i ffermwyr yn parhau am flwyddyn ychwanegol, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Yn wreiddiol, roedd disgwyl i’r taliadau gychwyn dod i ben o 2020 ymlaen, wrth i system newydd – sy’n cynnwys grantiau busnes ac amgylcheddol – gael ei chyflwyno yn eu lle.

Mae tipyn o wrthwynebiad wedi bod i’r cam hwn, gyda’r undebau ffermwyr  yn rhybuddio y gallai newid ladd y diwydiant amaeth.

Ond yn ôl yr Ysgrifennydd tros Faterion Amaeth, bydd y system bresennol yn parhau am flwyddyn arall er mwyn rhoi mwy o amser i ffermwyr “baratoi ac addasu” ar gyfer newid.

‘Sicrwydd’

“Dw i’n sylweddoli bod hwn yn newid mawr i’r sector yn ystod cyfnod ansicr,” meddai Lesley Griffiths.

“Mae’r cyfnod pontio yn hynod bwysig a dyma pam yr wyf heddiw yn cyhoeddi’r Cynllun Taliad Sylfaenol fydd yn parhau heb newid am flwyddyn arall yn 2020 i roi sicrwydd ac i helpu ffermwyr newid yn ddidrafferth i’r Rhaglen Rheoli Tir newydd.

“Bydd yr estyniad hwn yn sicrhau bod gan ffermwyr ddigon o amser i baratoi ac addasu i’r dull newydd hwn.”

Dywed Lesley Griffiths hefyd y bydd dros 85% o daliadau ffermwyr o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol ar gyfer 2018 yn cael eu talu ddydd Llun nesaf (Rhagfyr 3).