Mae disgwyl i’r cwest i farwolaeth cyn-aelod o Gabinet Llywodraeth Cymru, a fu farw llynedd, agor yn Rhuthun heddiw (dydd Llun, Tachwedd 26).

Cafodd corff Carl Sargeant, 49, ei ganfod gan ei wraig, Bernadette, yng nghartref y teulu yng Nghei Connah ar Dachwedd 7, 2017, ddyddiau ar ôl iddo gael ei ddiswyddo o’r Cabinet yn dilyn honiadau o gamymddwyn yn rhywiol.

Fe gafodd yr Aelod Cynulliad ei wahardd o’r Blaid Lafur hefyd, ond mae ei deulu wedi honni ers hynny na chafodd Carl Sargeant gyfle i’w amddiffyn ei hun oherwydd na dderbyniodd y wybodaeth lawn am yr honiadau yn ei erbyn.

Mae’n nhw’n honni bod gwybodaeth wedi cael ei chelu er mwyn amddiffyn enwau’r rheiny a gyflwynodd gwynion yn erbyn y gwleidydd, ac mae cyfreithwyr y teulu’n dweud bod hynny wedi achosi pryder enbyd iddo.

Y cwest

Mae John Gittins, Prif Grwner gogledd Cymru, wedi dweud bod y cwest, a fydd yn para pum diwrnod, yn archwilio’r modd yr ymatebodd Llywodraeth Cymru i gyflwr iechyd meddwl Carl Sargeant cyn ei farwolaeth.

Mae disgwyl i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, gyflwyno tystiolaeth gerbron y cwest ddydd Mercher (Tachwedd 28).

Bydd datganiad gan Ian McNicol – yr Ysgrifennydd Cyffredinol ar gyfer y Blaid Lafur ar y pryd – yn cael ei ddarllen hefyd.

Bydd manylion o ffôn personol Carl Sargeant yn cael eu defnyddio fel tystiolaeth, yn ogystal â’r nodyn a adawodd cyn iddo ei grogi ei hun.

Mae ymchwiliad annibynnol gan Lywodraeth Cymru, a gafodd ei gyhoeddi gan Carwyn Jones, ar hyn o bryd wedi’i atal, yn dilyn her gyfreithiol gan deulu Carl Sargeant ynglŷn a’r ffordd y mae’n cael ei gynnal.