Mae Arlywydd Ffrainc wedi cael ei feirniadu yn dilyn sylwadau canmoliaethus a wnaeth am gadfridog yn y Rhyfel Mawr a aeth yn ei flaen i gydweithio â’r Natsïaid yn ystod yr Ail Rhyfel Byd.

Fe arweiniodd Marsial Philippe Petain fyddin Ffrainc i fuddugoliaeth ym Mrwydr Verdun yn 1916, ond mae bellach yn cael ei ystyried yn fradwr gan nifer ar ôl arwain y Llywodraet Vichy yn Ffrainc rhwng 1940 a 1944.

Yn ôl Emmanuel Macron, mae’r cadfridog yn haeddu clod am ei ran fel “milwr arbennig” yn y Rhyfel Mawr, er iddo wneud “dewisiadau angheuol” yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Mae un o’r prif grwpiau Iddewig yn Ffrainc, y CRIF, wedi galw sylwadau’r Arlywydd yn “sioc a sarhad”.

O dan deyrnasiad Philippe Petain, cafodd 13,000 o Iddewon eu cludo o Ffrainc  yn ystod yr Holocost.