Bydde’r Blaid Lafur yn atal gwerthiant arfau i Sawdi Arabia wedi’r awdurdodau yno gyfaddef fod y newyddiadurwr Jamal Khashoggi wedi marw yn ei gonswliaeth yn Istanbul.

Dywedodd Barry Gardiner, yr Ysgrifennydd Masnach Rhyngwladol cysgodol wrth raglen Today y BBC: “Bydd yn rhaid inni edrych yn ofalus iawn eto ar y berthynas sy gyda ni â Sawdi Arabia.”

Ychwanegodd: “Be fydde ni yn ei wneud yn bendant nawr, a dwi’n meddwl y dylai’r Llywodraeth wneud hyn, ydi atal yr holl werthiant arfau i’r deyrnas.”

Roedd yn cydnabod fod yna “lawer o swyddi” ym Mhrydain yn gysylltiedig a’r fasnach arfau a fydde yn cael ei heffeithio, meddai.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Syr Vince Cable: “Ymddengys fod Sawdi Arabia wedi anghofio am farwolaeth yn ei gonswliaeth ei hun.”

Dywedodd y Swyddfa Dramor eu bod yn ystyried eu “camau nesaf.”