Mae un o brif swyddogion NFU Cymru yn dweud bod y bwriad i ddad-ddofi rhan helaeth o gefn gwlad canolbarth Cymru yn syniad “hollol wallgof”.

Bydd rhannau o ogledd Ceredigion a Dyffryn Dyfi ym Mhowys yn rhan o’r prosiect ‘O’r Mynydd i’r Môr’, sy’n cael ei arwain gan yr elusen Rewilding Britain.

Fe adroddodd y wefan hon yr wythnos ddiwetha’ am yr elusen sy’n bwriadu defnyddio rhannau o Bowys a Cheredigion fel “ardal arbrofi”, ond mae lle i gredu mai nod yr elusen yw ailgyflwyno anifeiliaid cynhenid i fyd natur.

Yn ôl Wyn Evans, cadeirydd Bwrdd Da Byw NFU Cymru sy’n ffermio yng Ngheredigion, mae gan ffermwyr lleol “dipyn o bryder” ynglŷn â’r prosiect, sydd wedi derbyn cyllid gwerth £3.4m yn ddiweddar.

‘Rewilding’

“Mae pryderon gyda fi ambwyti’r agenda y tu ôl i’r cynllun, a pha mor bell y maen nhw’n meddwl mynd ati i ddefnyddio’r term ‘Rewilding’,” meddai Wyn Evans wrth golwg360.

“A ydyn ni’n mynd i weld anifeiliaid eithafol yn dod i mewn i’r cymunedau yma? A gweld rhan fawr o dir amaethyddol yn cael ei wneud yn ddiffeithwch?

“A pha effaith mae hyn yn mynd i gael ar y bobol sy’n byw yn yr ardal a’r bobol sy’n ffermio yn yr ardal

‘Stepen yn rhy bell’

Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Rewilding Britain a nifer o sefydliadau cadwriaethol, a bydd yr ardal arbrofi yn cynnwys 10,000 hectar o dir a 28,400 hectar o fôr.

Ond mae Wyn Evans yn credu bod y prosiect yn mynd “bach yn rhy bell”, ac mae’n ychwanegu mai’r brif flaenoriaeth a ddylai fod ar gyfer cefn gwlad yw “cynhyrchu bwyd a chynnal teuluoedd”.

“Dw i’n gobeithio y bydd y bobol a fydd ynghlwm â’r prosiect yn dod yn ôl i gysylltu â ni, a dweud beth yw eu cynlluniau nhw er mwyn i ni drafod y cynlluniau gyda nhw,” meddai ymhellach.

“Wedyn, os nad ydyn ni’n hapus, bydd yr hawl gyda ni i ddangos ein gwrthwynebiad.”