Y ffliwtydd Epsie Thompson o Ddafen yn Llanelli sydd wedi cipio Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel 2018.

Mae hi’n derbyn gwobr o £4,000 yn dilyn ei buddugoliaeth ar noson arbennig ym Mhafiliwn Llandrindod neithiwr (nos Wener, Hydref 12).

Cafodd ei gwobr ei noddi gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Daeth hi i’r brig cystadleuaeth a gafodd ei beirniadu gan Rhian Roberts, Iwan Llewelyn Jones, Lowri Walton, Gwawr Edwards ac Owain Sion.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei darlledu mewn rhaglen arbennig ar S4C am 6.45 nos Sul (Hydref 14).

Yr enillydd

Derbyniodd Epsie Thompson ei haddysg yn Ysgol Bryngwyn ac yna Coleg Cerdd Chethams ym Manceinion.

Bellach, mae hi’n astudio cwrs ôl-radd mewn cerddoriaeth yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain.

Mae’n gystadleuydd brwd gan gipio’r wobr gyntaf i offerynwyr o dan 30 oed yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen eleni.

Mae ei bryd ar chwarae’r ffliwt yn broffesiynol mewn cerddorfa, a pharhau i berfformio mewn cyngherddau a datganiadau yng Nghymru a thu hwnt.

Wedi cael gweithio gyda chyfarwyddwr cerdd a choreograffydd ar ddatblygu rhaglen arbennig 12 munud o hyd, dewisodd Epsie arlwy oedd yn cynnwys ‘Allegretto’ gan Benjamin Godard, ‘Aria Lensky’ gan Pyotr Ilyich Tchaikovsky a ‘Bossa Merengova’ allan o ‘Sonata Latino’ gan Mike Mower.

‘Methu credu’

Yn dilyn ei buddugoliaeth, dywedodd Epsie Thompson, “Dwi methu credu fy mod wedi ennill yr Ysgoloriaeth hon, dwi’n credu wnaiff gymryd rai dyddiau i mi sylweddoli taw nid breuddwyd ydyw!

“Bydd y wobr yma yn gymorth mawr i mi gyda’m costau astudio yn Llundain gan fy mod yn awyddus iawn i sicrhau fy mod yn cymryd bob cyfle i ennyn profiadau yn y maes.

“Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’m teulu am bob cefnogaeth, ac i’r holl athrawon a thiwtoriaid cerdd sydd wedi fy helpu dros y blynyddoedd.”

‘Rhaglen ffres o adloniant o’r safon uchaf’

Dywedodd y beirniad Iwan Llewelyn Jones ar ran ei gyd-feirniaid, “Llongyfarchiadau i Epsie am gyflwyno i ni raglen ffres o adloniant o’r safon uchaf.

“Dydw i ddim yn meddwl y bydd neb fu yn y Pafiliwn heno yn anghofio ei pherfformiad arbennig.

“Roedd ei thechneg chwim ar y ffliwt ynghyd a’r dulliau o arbrofi’n gerddorol wir yn arbennig.

“Dwi’n siŵr y bydd cerddorion ifanc Cymru wedi eu hysbrydoli gan berfformiad dawnus Epsie.

“Roedd safon gwefreiddiol perfformiadau’r chwech yn dangos sglein paratoi, a thalent ifanc heb eu hail.

“Yr hyn sy’n arbennig am yr Ysgoloriaeth hon yw ei bod yn llwyfan i rai o’r goreuon o dalentau anhygoel ein gwlad.

“Er fod y profiad o feirniadu heno wedi bod yn bleserus iawn gallaf eich sicrhau nad yw’r broses o feirniadu yn un hawdd o gwbl!”

Llongyfarchiadau

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Aled Siôn, “Hoffwn longyfarch Epsie am ennill yr ysgoloriaeth eleni mewn cystadleuaeth agos iawn.

“Profwyd unwaith eto heno, fel y gwnaethpwyd yn Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed ym mis Mai, bod cyfoeth anhygoel o dalent gennym ymysg Cymry ifanc ein gwlad.

“Rydym yn falch iawn fel mudiad ein bod yn gallu darparu llwyfan genedlaethol ar eu cyfer.

“Pob dymuniad da i Epsie ar gyfer y dyfodol, ac edrychwn ymlaen at glywed sut y bu ennill yr ysgoloriaeth yn gymorth iddi hi ar hyd ei thaith.”