Mae mudiad iaith yn pryderu am y “goblygiad negyddol” y bydd defnyddio enw Saesneg ar gyfres deledu sy’n cael ei ffilmio ar Ynys Llanddwyn yn ei gael ar yr enw Cymraeg lleol.

Mae ‘Cockle Bay’ yn cael ei chynhyrchu gan y cwmni, Wildflame Productions, ar ran BBC Cymru, a bydd yn rhoi cyfle i bedwar teulu fyw mewn cymuned bysgota ar droad yr ugeinfed ganrif.

Mewn gohebiaeth sydd wedi dod i law golwg360, mae cyfarwyddwr y gorfforaeth, Geraint Talfan Davies, yn mynnu mai “teitl dros dro” yw’r un presennol, ac nad oes bwriad i’w ddefnyddio i “unrhyw berwyl cyhoeddus”.

Ond mae Cylch yr Iaith yn dweud bod yr enw eisoes wedi cael cyhoeddusrwydd, wrth iddo gael ei ddefnyddio yn y wasg ac ar y we.

“Teitl dros dro”

“Hoffwn danlinelli’r ffaith mai teitl dros dro yw ‘Cockle Bay’ a does dim bwriad iddo ddod yn deitl parhaol i’r rhaglen na’i ddefnyddio i unrhyw berwyl cyhoeddus,” meddai llefarydd ar ran Rhodri Talfan Davies.

“Mae’r lleoliad [Ynys Llanddwyn] yn rhan hanfodol o’r rhaglen fydd yn gyfle i bedwar teulu gael blas o fywyd mewn cymuned bysgota ar droad yr ugeinfed ganrif.

“Byddant yn byw yn y bythynod [sic.] hanesyddol ar yr ynys ac yn gwneud eu bywoliaeth drwy bysgota drwy ddulliau’r gorffennol.”

“Disodli enw lle Cymraeg”

Dywed Ysgrifennydd Cylch yr Iaith, Ieuan Wyn, mewn ymateb: “Roedd yr enw’n amlwg yn y Daily Post, sydd â chylchrediad cymharol eang yng ngogledd Cymru.

“Ar y we, dim ond teipio Cockle Bay Anglesey sydd raid ei wneud, a chyplysir yr enwau gydag Ynys Llanddwyn.

“Gallai hyn ynddo’i hun fod â goblygiad negyddol oherwydd nid oes rhaid mynd ati’n fwriadol i ddisodli enwau lle Cymraeg.

“Gall ddigwydd yn ddamweiniol, yn ganlyniad anuniongyrchol.

“Byddem yn falch iawn pe baech yn cyfleu hyn i’r tim comisiynu fel eu bod yn cysylltu â’r cwmni cynhyrchu gyda chais iddyn beidio â defnyddio’r enw ‘Cockle Bay’ fel teitl dros dro,” meddai wedyn.