Un o “broblemau mawr” refferendwm Brexit oedd y diffyg arweinyddiaeth gan Aelodau Cynulliad Cymru, yn ôl yr aelod mwyaf newydd.

Mae Helen Mary Jones yn pryderu bydd yr ymadawiad yn “argyfwng cenedlaethol” ac mae’n rhagweld “bwyd yn pydru yn y caeau” yn ei sgil.

Mae’r Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru  yn teimlo bod pobol wedi pleidleisio o’’i blaid oherwydd eu bod wedi cael “llond bol”, a’n rhannol oherwydd diffyg cydweithio rhwng eu haelodau etholedig.

Felly, gyda Brexit yn prysur agosáu, dylai unrhyw gynrychiolwyr etholedig “â synnwyr cyffredin” ddod at ei gilydd i geisio ei atal yn llwyr, meddai.

“Mae gan wleidyddion ddwy job. Un yw cefnogi pobol, ac un yw eu harwain,” meddai wrth golwg360. “Ac un o’r problemau mawr gyda’r refferendwm diwethaf oedd ei fod wedi digwydd jest ar ôl etholiad y Cynulliad.

“Roedd hynny’n golygu fod pobol ddim yn gallu cydweithio – Lib Dems, Llafur, Plaid ac wrth gwrs rhai Ceidwadwyr. Doedden ni methu cydweithio. Roedd ‘na ddiffyg arweinyddiaeth yn fan ‘na. Dyma gyfle nawr, dw i’n credu,  rhoi’r arweinyddiaeth yna.”

Mae Helen Mary Jones yn rhannu safiad ei phlaid sef y dylai ail refferendwm gael ei gynnal unwaith yr ydym yn gwybod beth yw’r ddêl, neu os na fydd dêl.

Rhwystredig

Bu Helen Mary Jones yn areithio ar y mater yng nghynhadledd Plaid Cymru yn Theatr Mwldan, Aberteifi, a’n siarad â golwg360 mae wedi dweud bod ymateb Llywodraeth Cymru i Brexit yn “hynod o rwystredig”.  

“O ran Cymru, maen nhw wedi methu yn llwyr eto,” meddai. “Maen nhw wedi caniatáu i bwerau gael eu tynnu oddi ar Gymru yn ôl i San Steffan.

“Maen nhw wedi gwrthod sefyll fyny i’r Torïaid, maen nhw wedi gwrthod sefyll fyny yn erbyn cynni ariannol.”