Cafodd sŵ ddau rybudd bod yna berygl i lyncs allu dianc am fod coeden yn lloc yr anifail yn rhy uchel – fisoedd cyn i’r awdurdodau orfod saethu un yn farw ar ôl iddi ddianc.

Dywedodd Cyngor Ceredigion bod Wild Animal Kingdom yn Borth ger Aberystwyth wedi cael y rhybuddion yn Ebrill a Mai 2017.

Dihangodd y lyncs Ewrasaidd, Lilleth o’r sŵ rhwng Hydref 24 a 29, 2017, a bu’n rhaid ei difa ar gais yr awdurdod lleol ar Tachwedd 10 er mwyn diogelu’r cyhoedd.

Prynodd Dean a Tracy Tweedy y sŵ 10 erw am £625,000 yn 2016.

Yn ôl y cyngor, cafodd y sŵ rybudd gan filfeddyg ynglŷn â’r mater ym mis Ebrill y llynedd, ac yna gan swyddog trwyddedu wnaeth eu cynghori mewn person ac mewn ebost ar Mai 4, 2017.

Dywedodd Mrs Tweedy bod hi â’i gŵr, ar ôl cymeryd cyfrifoldeb am y sŵ ar Mai 17, 2017, wedi “tocio’r tyfiant ymhob un o’r llociau, gan gynnwys lloc y lyncs, ac fe gafodd hynny ei wneud sawl tro dros yr haf”.

“Yn amlwg, o edrych yn ôl, wnaethon ni ddim torri’n ôl ddigon,” meddai.

Ychwanegodd Mr Tweedy: “Mae hyn yn hen newyddion. Dywedwyd wrth y cyn-berchnogion fod eisiau torri’r tyfiant yn ôl. Roedd hynny yn amlwg wrth unrhyw un ond nid oedd y cyngor wedi dweud unrhyw beth penodol am lloc y lyncs. Dydi hyn ddim yn ymwneud â ni o gwbl.”

Dywedodd fod y sŵ yn dal yn agored ac yn gwneud dipyn gyda ysgolion lleol.

“Ryda ni mewn sefyllfa llawer gwell nag oedden ni. Mae ganddo ni fam lyncs a dwy o rai bach ac mae ganddo ni lewod a mwnciod ac ymlusgiaid. Mae o’n fuddsoddiad mawr ac fe fydd yn cymeryd amser ac arian. Ond fe fyddai’n bechod os collir yr unig sŵ yng Ngheredigion,” meddai.