Mae pryderon am ffitrwydd Gareth Bale ar drothwy gêm nesaf tîm pêl-droed Cymru ymhen llai na phythefnos.

Byddan nhw’n herio Sbaen mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Principality ar Hydref 11.

Daeth yr ymosodwr, sy’n brif sgoriwr goliau Cymru erbyn hyn, oeddi ar y cae yn ystod yr egwyl yng ngêm ddi-sgôr Real Madrid yn erbyn eu cymdogion Atletico Madrid yn Stadiwm Bernabeu ddydd Sadwrn.

Mae lle i gredu bod y Cymro wedi anafu ei forddwyd, ond dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd pa mor ddifrfiol yw’r anaf.

Fe wnaeth e argraff yn ystod yr hanner cyntaf, wrth ddod yn agos at sgorio gyda foli a ddeilliodd o gic rydd Toni Kroos i mewn i’r cwrt cosbi.

Yn ôl rheolwr Real Madrid, Julen Lopetegui, cafodd Gareth Bale ei dynnu oddi ar y cae fel rhagofal, ac fe fydd yn cael profion heddiw.