Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Cyngor Gwynedd o “ymddygiad annemocrataidd”, yn dilyn ffrae ym Mhen Llŷn ynghylch codi clwstwr o dai gwyliau moethus ar hen safle gwesty Plas Pistyll.

Yn ôl datblygwyr y tai, Natural Retreats, y bwriad yw adeiladu 35 o dai gwyliau ar safle Plas Pistyll ger pentref Pistyll, Nefyn a fydd yn amrywio o £360,000 i £750,000 o ran cost.

Ond mae dicter wedi cael ei fynegi’n lleol, gyda rhai pentrefwyr yn cyhuddo Cyngor Gwynedd o newid y cynlluniau gwreiddiol heb roi gwybod iddyn nhw.

Dywed Cymdeithas yr Iaith na fydd yn bosib i bobol leol fforddio’r tai moethus hyn, ac na ddylai’r datblygiad fynd yn ei flaen felly.

“Ddylen nhw ddim gael eu hadeiladu”

“Mae angen system gynllunio sydd wedi selio ar anghenion pobol leol, nid hapfasnachwyr,” meddai Talat Chaudri o Gymdeithas yr Iaith.

“Dyw pobl sy’n byw ar gyflogau lleol ddim yn medru fforddio prynu tai fel hyn, felly ddylen nhw ddim cael eu hadeiladu o gwbwl.”

Mewn datganiad, mae Cyngor Gwynedd yn dweud eu bod nhw wedi ymgynghori’n lleol a gyda ymgynghorwyr lleol ynghylch y cais i newid y cynlluniau, a bod rhybudd wedi cael ei osod ger safle’r datblygiad.
Maen nhw hefyd yn dweud bod y cais wedi cael ei benderfynu trwy ddirprwyaeth “gan nad oedd [y cais] yn golygu newid natur sylfaenol y caniatâd oedd eisoes yn ei le, a chan nad oedd y cais wedi ei gyfeirio i bwyllgor gan aelodau lleol.”
“Rydym yn hyderus fod pob cais wedi eu hymdrin â nhw’n gwbl agored a thryloyw, a bod y penderfyniadau yn rhai cadarn a wnaed yn unol â pholisïau lleol a chenedlaethol perthnasol, gan gymryd i ystyriaeth unrhyw fater cynllunio perthnasol a amlygwyd yn ystod y broses ymgynghori,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor.