Daeth cannoedd o bobl i wylio un o drenau enwoca’r byd yn teithio ar hyd y rheilffordd o Crewe i Gaergybi heddiw.

Roedd pawb eisiau tynnu lluniau a fideos o’r Flying Scotsman wrth iddo ymweld â Phrestatyn, Bae Colwyn a Chaergybi fel rhan o’r daith.

Dyma’r tro cyntaf i’r locomotif ymweld â gogledd Cymru ers y 1990au.

Nid oedd yna amserlen fanwl ar gael oherwydd pryderon am wylwyr yn tresmasu ar y lein.

Yn ystod y daith, fe daranodd drwy y Rhyl a Chonwy ond cafodd cannoedd o bobl eu plesio wrth i’r trên aros yng Nghyffordd Llandudno, Bangor a Llanfairpwll. Dyma’r daith a elwir yr “Ynys-Môn Express.”

Fe fydd yn aros yng Nghaergybi tan 4.25yh pan fydd yn dychwelyd i Gaer, lle bydd wedyn yn cael ei dynnu gan injan diesel yn ôl i Crewe erbyn 7.30yh.

Fe ddaeth y locomotif enwog i ben ei siwrne yn 1963, cyn cael ei brynu gan ŵr busnes o ogledd Cymru, Alan Pegler.

Dechreuodd y daith ddiweddaraf ym mis Ebrill yn dilyn gwaith adnewyddu gwerth £4.1m.