Mae cyn-Arlywydd Brasil, Luiz Inacio Lula da Silva wedi’i atal rhag sefyll eto yn etholiadau’r wlad ym mis Hydref.

Mae e yn y carchar ar hyn o bryd am dwyll, ond mae’n gwadu ei fod e wedi gwneud unrhyw beth o’i le.

Mae ei blaid wedi dweud y byddan nhw’n apelio yn erbyn ei waharddiad, ond mae’n annhebygol y bydd yr apêl yn llwyddo.

Y tebygolrwydd yw mai dirprwy arweinydd y blaid, Fernando Haddad, cyn-Faer Sao Paolo fyddai’r arweinydd newydd pe bai’r blaid yn ennill yr etholiad.

Dywedodd barnwr yn y Goruchaf Lys nad oedd ganddyn nhw ddewis ond gwahardd Luiz Inacio Lula da Silva, am fod y gyfraith yn atal unrhyw un sy’n euog neu wedi’i amau o dwyll rhag bod mewn swydd gyhoeddus.

Gyrfa

Roedd Luiz Inacio Lula da Silva mewn grym rhwng 2003 a 2010, gan dynnu miliynau o bobol allan o dlodi yn sgil ei bolisïau.

Ar y pryd, roedd cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama yn cyfeirio ato fel “y gwleidydd mwyaf poblogaidd ar wyneb y Ddaear”.

Ond wrth i’r economi grebachu, fe gollodd y cyn-Arlywydd ei enw da.

Mae’r dyn 72 oed yn y carchar am 12 o flynyddoedd am dwyll a gwyngalchu arian yn ymwneud â chwmni adeiladu, lle cafodd e addewid o gartref ar y traeth yn gyfnewid am ffafrau ariannol.