Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am gyfres o ymosodiadau gan blant ar heddlu Chechnya yng ngogledd Rwsia.

Fe ddigwyddodd y tri ymosodiad ddydd Llun (Awst 20) yn ardal Fwslimaidd y wlad, ac fe gafodd nifer o heddweision eu hanafu.

Fe laddwyd pump o hunanfomwyr hefyd, phob un rhwng 11 a 16 oed.

Mae IS wedi hawlio cyfrifoldeb hefyd am ymosodiad ddigwyddodd heddiw (dydd Mawrth) yn Grozny, prifddinas y rhanbarth, ac yn ardal Shali i’r de o Grozny.