Mae dynes yn ei 50au wedi’i harestio wedi i gar fynd ar ei ben i mewn i gatiau adeiladau’r llywodraeth yn ninas Dulyn.

Y gred ydi fod yna fwriad i yrru’r Nissan Micra lliw aur i mewn i’r gatiau yn Merrion Street Upper yn ne’r ddinas toc wedi 10yb heddiw (dydd Mawrth, Awst 21).

Chafodd neb ei anafu yn ystod y digwyddiad.

Mae’r wraig wedi’i chymeryd i’r ddalfa yn Pearse Street, ac mae’r ymholiadau yn parhau.

 

ReplyForward