Mae’r cyhuddiadau o gamymddwyn yn erbyn cyn-bennaeth heddlu Hillsborough, wedi’u gollwng.

Fydd Syr Norman Bettison, cyn-Brif Gwnstabl Heddlu Gorllewin Swydd Efrog, ddim yn gorfod mynd o flaen ei well i ateb pedwar cyhuddiad o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus. Roedden nhw i gyd yn ymwneud â’i rôl yn dilyn y trasiedi yn 1989 pan laddwyd 96 o gefnogwyr tîm Lerpwl.

Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Preston heddiw (dydd Mawrth, Awst 21) fe gadarnhaodd Gwasanaeth Erlyn y Goron na fyddan nhw’n parhau â’r achos.

Roedd disgwyl i Norman Bettison sefyll ei brawf y flwyddyn nesaf, wedi’i gyhuddo o ddweud anwiredd wrth ddisgrifio ei waith yn y llu yn 1989 fel “swydd ymylol”, pan oedd yn ymgeisio am swydd Prif Gwnstabl Glannau Merswy yn 1998.

Roedd hefyd wedi’i gyhuddo o ddweud celwydd wrth Awdurdod Heddlu Glannau Merswy pan ddywedodd nad oedd erioed wedi ceisio rhoi’r bai am drychineb Hillsborough ar ysgwyddau cefnogwyr Lerpwl.