Yn ystod seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy heddiw (dydd Sadwrn, Gorffennaf 7), cyhoeddwyd mai Myrddin ap Dafydd fydd Archdderwydd Cymru am y cyfnod o 2019-22.

Gan mai un enwebiad yn unig a dderbyniwyd erbyn y dyddiad cau, nid oedd angen cynnal etholiad, a bydd cyfarfod cyffredinol Bwrdd yr Orsedd yn cadarnhau’r enwebiad yn eu cyfarfod yn ystod wythnos yr Eisteddfod eleni.

Mae Myrddin ap Dafydd yn olynu Geraint Lloyd Owen yn y swydd.

Mae wedi ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith – yn Cwm Rhymni yn 1990 ac yn Sir Benfro, 2002.

Mae’n hanu o Llanrwst, lle mae’n dal i redeg ei gwmni, Gwasg Carreg Gwalch, ac fe fydd yn cynnal ei seremonïau cyntaf ym mhrifwyl Sir Conwy sy’n cael ei chynnal yn y dref honno.

“Mae nifer wedi ceisio fy mherswadio i gael fy enwebu am swydd Archdderwydd dros y blynyddoedd,” meddai Myrddin ap Dafydd.

“Un peth sydd wedi gwneud gwahaniaeth y tro yma ydi mai criw o genhedlaeth iau na fi oedd am gynnig fy enw. Mi deimlais fod yr amser wedi dod i mi dderbyn. Dw i’n edrych ymlaen at y gwaith yn arw rŵan – mae cael bod yn rhan o’r ŵyl yn Nyffryn Conwy yn golygu llawer imi, wrth gwrs.

“Mi fydd yn braf iawn cael cyfle i wobrwyo ac anrhydeddu doniau a chymwynaswyr mawr ein diwylliant ni. Mae’r swydd hefyd yn ymwneud â chryfhau, ymestyn ac amddiffyn popeth Cymraeg a Chymreig.

“Yn y cyfnod hwn mae’n golygu gwrthsefyll y tueddiadau cul, ynysig sy’n dod o gyfeiriad Llundain a chreu cyfeillion newydd i’n diwylliant mewn gwledydd eraill.”