Bydd uwchgynhadledd rhwng arweinwyr yr Unol Daleithiau, Donald Trump, a Rwsia, Vladimir Putin, yn cael ei gynnal yn y Ffindir ar Orffennaf 16.

Daw’r cyhoeddiad ddiwrnod yn unig wedi i ymgynghorydd diogelwch cenedlaethol America, John Bolton, gynnal trafodaethau â swyddogion Rwsiaidd, am y cyfarfod yn Helsinki.

Yn siarad ddydd Mercher dywedodd Donald Trump bod “dod ymlaen gyda Rwsia, Tsieina a phawb, yn beth da iawn.”

Ac ychwanegodd y byddai ef a Vladimir Putin yn trafod Syria, yr Wcrain a “sawl phwnc arall”.

Bu i’r ddau ffigwr gyfarfod â’i gilydd yn ystod cynadleddau rhyngwladol y llynedd, ond dyma fydd y tro cyntaf iddyn nhw gynnal cyfarfod swyddogol.