Mae myfyriwr o Geredigion, sy’n astudio mewn prifysgol yn Ohio, yn dweud bod yna “ddiddordeb mawr” gan bobol y dalaith yn eu Cymreictod.

Mae Dan Rowbotham ar hyn o bryd yn treulio dwy flynedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Rio Grande lle mae’n treulio rhan o’i amser fel intern yng Nghanolfan Madog – canolfan Gymraeg y brifysgol.

Yn rhinwedd y swydd honno, mae’n trefnu gweithgareddau er mwyn hybu’r ymwybyddiaeth am Gymru a’i diwylliant o fewn y dalaith, sy’n enwog am fod yn gyrchfan i fewnfudwyr o Geredigion yn ystod y 19ganrif.

Mae Prifysgol Rio Grande yn ne-ddwyrain Ohio, lle yr ymfudodd y rhan fwyaf o Gardis iddi union 200 mlynedd yn ôl. Ac yn ôl Dan Rowbotham, sydd ei hun yn hanu o Langeitho yng Ngheredigion, mae yna “falchder o hyd” gan y bobol yno yn eu treftadaeth Gymreig.

“Mae lot o bobol yn fan hyn yn falch iawn eu bod nhw’n Gymru,” meddai wrth golwg360.

“Maen nhw’n rhoi baner Cymru y tu fas i’w ffermydd nhw, ac yn fan hyn yn Rio Grande, mae baner Cymru ar sawl postyn gole ar hyd y pentre’.

“Mae lot o bobol ishe gwybod am eu treftadaeth nhw eu hunan hefyd. Rydyn ni’n dathlu pethe fel dydd Gŵyl Dewi, ac yn cael Cymanfa.”

Colli’r iaith

Wrth sôn am y diddordeb yn y Gymraeg wedyn, does yna “ddim cymaint o ddiddordeb i’w dysgu”, meddai wedyn.

“Mae’r iaith wedi cael ei cholli wrth iddyn nhw gael eu dylanwadu gan y bobol a oedd yn byw yma’n barod.

“Ond mae yna ddiddordeb bob hyn a hyn. Dydyn ni ddim yn cynnal dosbarthiadau yn flynyddol o’r ganolfan, ond bob hyn a hyn fe fydd yna ryw gwrs byr yn codi.”

“Mae yna draddodiad o gynnal eisteddfod yn Jackson hefyd, ac fe ges i’r cyfle i ddysgu ân Cymraeg i’r plant yn fan’na, ac roedd hyd yn oed rhai ohonyn nhw’n canu’r gân yn eu prosiect terfynol nhw.

“Mae ysgol uwchradd leol, maen nhw am wneud eisteddfod y flwyddyn nesa’ hefyd.”

Dyma glip sain o Dan Rowbotham yn sôn ymhellach am faint o Gymreictod sydd yn nhalaith Ohio a’r Unol Daleithiau yn gyffredinol…

Canolfan Madog

Mi gafodd Canolfan Madog ei sefydlu fel rhan o Brifysgol Rio Grande ym 1996, gyda’r nod o “feithrin dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o dreftadaeth a diwylliant gyfoes Cymru.”

Fe ddaeth i fod yn sgil nawdd gan Evan ac Elizabeth Dafis o Oak Hill, sef sylfaenwyr Amgueddfa Gymreig Oak Hill hefyd.

Mae Elizabeth Dafis yn gyn-athrawes sy’n hanu o Aberaeron, ac mae ei gŵr, Evan, yn ddisgynnydd i fewnfudwyr o Gymru.

Mae ysgoloriaeth yn cael ei chynnig bob dwy flynedd i fyfyrwyr o Gymru i deithio i Ohio er mwyn astudio ym Mhrifysgol Rio Grande ac i weithio yng Nghanolfan Madog.