Mae tua 5,000 o bobol wedi cymryd rhan mewn gorymdaith yn Kyiv, prifddinas yr Wcráin, i ddathlu eu balchder yn y ffaith eu bod yn hoyw.

Fe wnaeth yr orymdaith bara oddeutu 20 munud, er gwaetha’r protestiadau yn ei herbyn.

Yn ôl llywodraeth yr Wcráin, dim ond 2,000 o bobol oedd wedi cymryd rhan yn yr orymdaith, ond dywedodd y trefnwyr fod y ffigwr yn nes at 6,000.

Fe geisiodd protestwyr ddod â’r orymdaith i ben saith gwaith, ond fe gawson nhw eu symud gan yr heddlu.

Cafodd y digwyddiad cyntaf o’r math hwn ei gynnal yn Kyiv ddwy flynedd yn ôl.

Cyn hynny, yn 2015, cafodd gorymdaith ei chanslo ar ôl i brotestwyr ymosod ar y rhai oedd wedi ymgynnull i gymryd rhan.