Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad ar ôl i dros 200 o nwyddau gael eu dwyn o archfarchnad yng Nghasnewydd.

Yn ôl Heddlu Gwent, fe fu’r lladrad yn siop Hobbycraft ym Marc Manwerthu Harlech ar Heol Caerdydd rhwng dau a hanner awr wedi dau ar b’nawn Mawrth (Mai 29).

Yn ystod y lladrad fe dynnwyd y tagiau electronig oddi ar nwyddau gwerth £3,500 a mwy, cyn eu dwyn.

Mae’r heddlu’n dweud eu bod yn awyddus i siarad â dwy ddynes sy’n ymddangos ar gamerâu CCTV y siop, ac maen nhw’n dweud y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â nhw ar y rhif 101.