Mae trigolion yn Hawaii wedi cael rhybudd i adael eu cartrefi wrth i lafa lifo.

Bu’n rhaid i oddeutu 2,000 o bobol adael eu cartrefi ers dechrau’r mis, wrth i 40 o adeiladau gael eu dinistrio.

Cafodd pedwar o gartrefi eu dinistrio ddydd Gwener, a bu’n rhaid  hofrennydd achub nifer o bobol.

Mae lle i gredu bod y lafa yn llifo ar gyflymdra o 300 llath yr awr erbyn hyn, ac mae pryderon y gallai gyrraedd rhai o’r prif ffyrdd dros yr oriau nesaf.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd pryd fydd hi’n ddiogel i bobol ddychwelyd i’w cartrefi.

Mae arbenigwyr yn rhybuddio fod ffrwydrad pellach yn bosibl.