Am 2 o’r gloch heddiw (dydd Mercher, Mai 16) fe fydd rheolwr tîm pêl droed Cymru, Ryan Giggs, yn cyhoeddi’i garfan ar gyfer y gêm yn erbyn Mecsico yn y Rose Bowl Pasadena ddiwedd y mis.

Yng nghanol yr holl ddyfalu, mae’n bosib dweud yn weddol sicr:

  • fe fydd Gareth Bale yn absennol oherwydd y bydd yn chwarae yn rownd derfynol Pencampwriaeth Ewrop yn Kiev;
  • mae’n bosib y bydd Danny Ward, golwr Lerpwl, yn Kiev hefyd;
  • ac fe fydd amddiffynnwr Aston Villa, James Chester, hefyd yn methu’r daith i America oherwydd ei fod yn priodi, ac oherwydd gemau ail-gyfle’r Bencampwriaeth.

Felly pwy fydd yn teithio? Tybed a fydd Ashley Williams, mae nifer wedi ei feirniadu am ei berfformiadau gwael y tymor hwn i Everton. Ond mae ganddo brofiad… Mae amddiffynnwr ifanc Chelsea, Ethan Ampadu, wedi bod allan gydag anaf i’w ffêr, a does dim dyddiad penodol ar gyfer ei ddychweliad i’r maes.

Beth am y ddau chwaraewr Lerpwl, Ben Woodburn a Harry Wilson? A fyddan nhw’n teithio i Kiev ynteu i America? Mae Derby County wedi methu cyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle felly fe fydd Joe Ledley a Tom Lawrence ar gael – neu tybed a ydi hi’n bryd i Joe Ledley ymddeol?

Mae George Williams wedi cael cyfnod gwych yn yr Alban i St Johnstone ar fenthyg  o Fulham, mae’n holliach felly tybed a gaiff o gyfle? Bydd Aaron Ramsey yn ei ôl ar ôl methu’r daith i Tsieina, ac fe fydd Neil Taylor ar gael hefyd… ond beth am Paul Dummett, sydd wedi cael tymor da gyda Newcastle?

Mae Ryan Giggs wedi bod yn treulio amser gyda charfan fach o chwaraewyr ifanc yr wythnos hon, gyda’r bwriad o asesu pwy sy’n haeddu cyfle yn y garfan lawn… felly efallai y cawn ni syrpreis neu ddau.