Mae angen sicrhau bod lleisiau cymunedau’n cael eu clywed pan fo cynlluniau datblygu’n cael eu cyflwyno ledled Cymru.

Dyna yw safbwynt yr Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Siân Gwenllian, sy’n pryderu nad yw datblygwyr yn talu sylw i anghenion lleol dan y drefn sydd ohoni.

“Dylai bod pobol leol yn cael llais yn y broses,” meddai wrth golwg360. “Mae angen asesu angen lleol, ac effaith datblygiadau ar gymunedau lleol.”

Bydd Aelodau Cynulliad yn trafod y mater mewn dadl ar Rôl y System Gynllunio wrth Greu Lleoedd yng Nghyfarfod Llawn y siambr yn ddiweddarach, ac mae disgwyl i Blaid Cymru gynnig gwelliannau fyddai’n cryfhau lleisiau cymunedau.

“Bur wahanol”

“Does dim sôn am bobol, a does dim sôn am gymunedau,” meddai Siân Gwenllian gan gyfeirio at y drefn sydd ohoni .

“Mae gweledigaeth a phwyslais Plaid Cymru yn wahanol.

“Mi ydan ni’n credu bod gan y gyfundrefn gynllunio, gyfrifoldeb o ran creu cymunedau hyfyw. Weithiau mae’r gyfundrefn ar hyn o bryd yn gweithio yn erbyn creu cymunedau hyfyw.

“Felly mae’r weledigaeth yn bur wahanol.”