Mi fydd yr Unol Daleithiau yn agor ei llysgenhadaeth newydd yn Jerwsalem heddiw (dydd Llun, Mai 14), a hynny diwrnod ar ôl i filoedd o Israeliaid ddathlu ‘Diwrnod Jerwsalem’.

Mi fydd agoriad swyddogol y llysgenhadaeth newydd yn cael ei ddynodi gan ddigwyddiad arbennig a fydd yn cael ei arwain gan ferch  Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, Ivanka, a’i gŵr, Jared Kushner.

Mae disgwyl y bydd nifer o ddiplomyddion o wledydd ledled y byd yn bresennol yn y digwyddiad, er bod y penderfyniad i symud y llysgenhadaeth o Tel Aviv i’r ddinas wedi bod yn un dadleuol.

‘Diwrnod Jerwsalem’

Yn ôl yr heddlu yn Israel, roedd dros 30,000 o Israeliaid yn dathlu Diwrnod Jerwsalem ddoe, gyda phobol yn chwifio baneri, canu a dawnsio ar strydoedd y ddinas.

Mae  ‘Diwrnod Jerwsalem’ yn nodi 51 mlynedd ers yr hyn mae Israel yn ei galw’n ‘uniad’ y ddinas yn dilyn Rhyfel y Dwyrain Canol yn 1967.

Yn ystod y rhyfel hwnnw, fe lwyddodd Israel i gipio rhan ddwyreiniol Jerwsalem, sy’n cynnwys yr ‘Hen Ddinas’, oddi ar Wlad yr Iorddonen.

Mae’r ‘Hen Ddinas’ yn cynnwys mannau sanctaidd i’r Iddewon, Cristnogion a’r Mwslemiaid.

Protestiadau

Ers i Donald Trump gyhoeddi ei fwriad i symud y llysgenhadaeth fis Rhagfyr y llynedd, gan gydnabod Jerwsalem fel prifddinas Israel, mae nifer o brotestiadau wedi cael eu cynnal gan Balesteiniaid yn erbyn y penderfyniad.

Ers diwedd mis Mawrth, mae 42 o Balesteiniaid wedi cael eu lladd – a mwy na 1,800 wedi’u hanafu – gan yr awdurdodau yn Israel mewn protestiadau yn erbyn penderfyniad yr Unol Daleithiau.

Mae’r protestiadau yn cael eu harwain gan y grŵp, Hamas, ac mae disgwyl iddyn nhw ddwysau yn ystod yr wythnos hon wrth i’r Palesteiniaid nodi 70 mlynedd ers iddyn nhw gael eu symud o’u gwlad yn 1948.

Yn dilyn penderfyniad yr Unol Daleithiau i symud ei llysgenhadaeth o Tel Aviv i Jerwsalem, mae Guatemala a Paraguay wedi cyhoeddi y byddan nhw’n gwneud yr un peth.