Mae’r cyflwynydd teledu, Ant McPartlin, yn dweud ei fod yn “wirioneddol sori” am siomi ei deulu, ei ffrindiau, a’i gefnogwyr ar ôl pledio’n euog a chael ei gosbi am yfed a gyrru.

Mae’r diddanwr, sy’n un rhan o’r ddeuawd boblogaidd, Ant and Dec, wedi cael y ddirwy fwya’ erioed am y drosedd yn Llys Ynadon Wimbledon ddoe ar ôl pledio’n euog i yrru dan ddylanwad alcohol adeg damwain draffig yng ngorllewin Llundain fis diwetha’.

Mae’r ddirwy yn £86,000 – mwy na’r record flaenorol o £54,000 a gafodd y pêl-droediwr Yaya Touré yn 2016 – ac fe gafodd ei wahardd rhag gyrru am 20 mis.

Yn gymharol, mae’r ddirwy’n sylweddol lai nag incwm wythnosol y cyflwynydd.

“Problemau emosiynol ac alcohol”

Fe glywodd y llys fod Ant McPartlin, 42 oed, wedi bod yn derbyn cymorth am “broblemau emosiynol ac alcohol” adeg y digwyddiad ar Fawrth 18, pan wnaeth ei gar mini daro dau gar arall.

Ac wrth ei ddedfrydu, fe ddywedodd y barnwr fod ei agwedd wedi siomi ei gefnogwyr, gan sarnu ei ddelwedd fel “esiampl” i bobol.

“Dw i wedi siomi fy hun, dw i wedi siomi nifer o bobol,” meddai Ant McPartlin yn dilyn yr achos. “Ac am hynny, dw i’n wirioneddol sori.

“Fe hoffwn ymddiheuro i bawb oedd yn rhan o’r damwain, a dw i’n ddiolchgar na chafodd neb eu hanafu’n ddifrifol.”