Mae rhieni Alfie Evans wedi colli eu hymgais ddiweddara’ i gael yr hawl i fynd â’r bachgen bach am driniaeth i ysbyty dramor.

Fe benderfynodd barnwyr llys apêl o blaid dyfarniadau cynharach yn gwrthod yr hawl i Tom Evans a Kate James fynd ag Alfie am driniaeth i Rufain.

Mae’n bosib y byddan nhw’n gwneud un cais arall i’r Goruchaf Lys – yr ail dro iddyn nhw wneud hynny.

Cefnogi’r arbenigwyr

Mae’r barnwyr wedi cefnogi penderfyniadau’r llysoedd a barn meddygon arbenigol yn Ysbyty Blant Alder Hey.

Maen nhw’n dweud bod angen rhoi’r gorau i drin y plentyn 23 mis oed oherwydd fod ei gyflwr wedi effeithio ar ei ymennydd ac nad oes gobaith iddo wella.

Maen nhw wedi cefnogi barn achos cynharach y byddai hedfan Alfie i Rufain yn anghywir a dibwynt.

Yn ôl y rhieni, mae cyflwr Alfie wedi gwella’n ddiweddar ac mae’r wladwriaeth yn ymyrryd yn eu hawliau fel rhieni.