Mae angen ymddiried yng nghabinet Theresa May ynglŷn â’r penderfyniad i ymyrryd yn filwrol ar Syria, meddai un Aelod Seneddol Ceidwadol o Gymru.

Yn ôl Glyn Davies, AS Sir Drefaldwyn, ddylai ASau ddim cael yr hawl i bleidleisio am fomio Syria oherwydd y byddai datgelu rhesymau’r Llywodraeth dros weithredu yn rhoi hwb i lywodraethau Rwsia a Syria.

“Rhaid cael pleidlais”

Hollol groes yw barn Paul Flynn, AS Llafur Gorllewin Casnewydd, sy’n dweud bod angen dysgu o gamgymeriad Rhyfel Irac yn 2003 a pheidio â mynd i ryfel heb fwy o dystiolaeth.

Fe allai gweithredu milwrol heb bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin arwain at ddadwneud yr addewid a gafodd ei wneud ar ôl Rhyfel Irac i beidio â mynd mewn i ryfel heb ddadl seneddol lawn.

“Y broblem ydy torri confensiwn 2003, oedd yn bwysig. Rhaid cael pleidlais, dyna yw’r confensiwn ers y 15 mlynedd ddiwethaf,” meddai wrth golwg360.

“Ond dw i ddim yn credu bydd penderfyniad ein Senedd ni yn gwneud unrhyw wahaniaeth i benderfyniad ynfytyn fel Trump. Bydd Trump yn gwneud beth mae am wneud.”

Glyn Davies – heb benderfynu

“Mae’n rhaid i ni drystio’r Prif Weinidog a thrystio’r Cabinet,” meddai Glyn Davies sy’n dweud nad yw wedi penderfynu a fyddai’n cefnogi gweithredu milwrol.

Hynny, meddai am nad yw’n gwybod yr holl ffeithia eto, meddai, ond fod rhaid rhoi stop ar ymosodiadau cemegol, fel yr un a fu yn nhref Douma ychydig ddyddiau’n ôl.

“Dw i ddim yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd eto ond mae’n rhaid i ni stopio chemical warfare… rydyn ni wedi gweld canrif heb chemical warfare o gwbl, dw i ddim eisiau gweld e’n cael ei normaleiddio,” meddai wrth golwg360.

“Dim fito”

“Un peth dw i ddim yn cefnogi yw rhoi fito i Aelodau Seneddol, dydyn ni ddim yn gwybod be’ ydi’r intelligence,” meddai Glyn Davies. Os buasai Aelodau Seneddol yn gwybod, mi fydden ni’n anfon intelligence i Assad, i Damascus, i’r Kremlin.

“Y broblem ydy, bydd gofyn i ni wneud penderfyniad heb wybod beth yw’r achos i wneud e, a bydd y Prif Weinidog ddim yn gallu dweud wrthym ni, os bydd yn dweud wrthym ni, mae’n dweud wrth y byd.

“Wrth gwrs, bydd rhaid i ni gael rhyw fath o ddadl, mae’r wrthblaid yn gallu gwneud hynny, fi’n siŵr bydd datganiad ar hwn dydd Llun yn y Siambr.”

Paul Flynn – yn erbyn

Pe bai pleidlais yn digwydd, mae Paul Flynn yn dweud na fyddai’n cefnogi gweithredu milwrol a hynny am nad oes digon o brawf bod angen gwneud.

“Buaswn i’n pleidleisio yn erbyn rhyfela. Does neb wedi rhoi prawf hyd yn hyn, mae pawb yn siarad am suspected atrocities.

“Dw i ddim yn gwybod beth oedd ym meddwl Assad i wneud rhywbeth mor wallgof. Os yw Assad yn gyfrifol, dyw e ddim yn gwneud unrhyw sens o gwbl.”