Mae miloedd o Balestiniaid wedi bod yn protestio ger y ffin ag Israel, gan ladd naw o Balestiniaid ac anafu 491 o bobol eraill, a 33 ohonyn nhw’n ddifrifol wael.
Dyma’r ail brotest yn yr ardal yr wythnos hon.
Mae newyddiadurwr adnabyddus o Balesteina, Yasser Murtaga ymhlith y rhai fu farw, ar ôl cael ei saethu. Roedd e gan medr o’r ffin ac yn gwisgo dillad yn dangos ei fod yn newyddiadurwr, ac yn dal ei gamera pan gafodd ei ladd.
Roedd yn gweithio i gwmni cyfryngau Ain, cwmni teledu lleol sy’n darparu gwasanaethau i gwmnïau tramor.
Yn ôl lluoedd arfog Israel, dim ond pobol sy’n ymosod arnyn nhw y maen nhw’n eu saethu.
Beirniadu
Mae’r digwyddiad diweddaraf wedi cael ei feirniadu gan ymgyrchwyr hawliau sy’n gwrthwynebu gweithredoedd Israel ger y ffin.
Roedd Gweinidog Amddiffyn y wlad eisoes wedi rhybuddio bod bywyd unrhyw un oedd yn ceisio mynd at y ffin mewn perygl.
Yn ôl swyddfa hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig, roedd Israel yn rhy ymosodol wrth atal protestiadau’r wythnos ddiwethaf, pan gafodd 15 o Balestiniaid eu lladd.
Ond mae llefarydd ar ran lluoedd arfog Israel wedi amddiffyn eu gweithredoedd.
Hamas
Mae Hamas wedi galw am gyfres o brotestiadau cyn Mai 15, pen-blwydd sefydlu Israel yn 1948.
Mae Israel yn honni bod Hamas yn cynnal gorymdeithiau fel ffordd o guddio eu hymosodiadau ar y ffin, ac maen nhw wedi addo gweithredu doed a ddel.
Mae Hamas wedi bygwth croesi’r ffin ar raddfa fawr a theithio i Jerwsalem.
Mae’r ffin yn ei gwneud hi’n anodd i Hamas lywodraethu, a bron yn amhosib i bobol groesi’r ffin. Mae hefyd wedi niweidio economi Gaza.