Dylid ymestyn cynllun sy’n ei gwneud yn haws i famau yng Nghasnewydd fwydo o’r fron i weddill Cymru, yn ôl ymgyrchwyr.
Fel rhan o’r cynllun, fe fydd staff mewn llefydd bwyta cyhoeddus yn derbyn hyfforddiant, ac fe fydd arwyddion yn nodi bod croeso i famau fwydo o’r fron.
Gobaith y Cynllun Mangreoedd sy’n Croesawu Bwydo ar y Fron yng Nghasnewydd yw annog mwy o famau i fwydo o’r fron er mwyn mynd i’r afael â’r risg o ordewdra yn nes ymlaen ym mywydau eu plant.
Fe fydd cofrestr yn cael ei chreu, yn nodi pa lefydd sy’n cefnogi’r cynllun.
Cefndir
Yn ôl ffigurau Cyngor Casnewydd, roedd nifer y mamau oedd yn bwydo o’r fron wedi gostwng yn sylweddol ar ôl i’w plant gyrraedd chwe wythnos oed.
Daeth cynllun cenedlaethol Llywodraeth Cymru i ben yn 2015, a mater i awdurdodau lleol erbyn hyn yw cynnig cynlluniau tebyg ai peidio.
Yn ôl y gyfraith, mae dyletswydd ar fusnesau i sicrhau nad yw busnesau’n trin mamau sy’n bwydo o’r fron yn annheg.