Mae’r eira dros nos wedi achosi problemau i deithwyr yn y gogledd heddiw, ond mae rhai ardaloedd yn y de a’r canolbarth wedi’u heffeithio hefyd.

Mae rhybudd ar wefan Traffig Cymru i deithwyr ym Metws-y-coed na ddylen nhw deithio ar yr A5 oni bai bod rhaid.

Mae amodau gyrru gwael hefyd ar yr A55 rhwng Caergybi a Chaer.

Mae oedi hir ar yr A470 i’r gorllewin hefyd, rhwng Caersws a Glantwymyn.

Yn y canolbarth, mae’r A44 ynghau rhwng Aberystwyth a Llangurig, ac mae oedi hir i’r ddau gyfeiriad ar yr A483 rhwng Aberriw a’r Drenewydd.

Yn y de, mae oedi hir i’r ddau gyfeiriad ar yr A470 rhwng Nant-ddu ac Aberhonddu.

Lluniau’r eira