Mae awdurdodau ym Mecsico yn pryderu am hipopotamws sydd yn crwydro trwy ardal gorslyd yn ne’r wlad.

Dydy’r creaduriaid ddim yn rhai brodorol ym Mecsico, a does gan neb unrhyw syniad o le daeth ef.

Mae’n debyg bod y hipopotamws wedi bod yn byw mewn casgliad o byllau ger Las Chopas, yn nhalaith Veracruz.

Bellach mae swyddogion wrthi’n dyfalu am ffyrdd o’i ddal.

Cafodd y hipopotamws ei weld am y tro cyntaf ym mis Ionawr, ac erbyn hyn mae wedi derbyn llys enw, sef Tyson.