Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi gollwng cyhuddiadau troseddol yn erbyn y cyn-chwaraewr rygbi Shane Williams.

Roedd ef a’i frawd Dean ymysg chwech o ddynion a oedd yn wynebu cyhuddiad o affráe yn dilyn digwyddiad honedig yng Nghaerdydd ar 2 Rhagfyr.

Clywodd Llys Ynadon Caerdydd fod y cyhuddiadau yn erbyn y ddau frawd wedi cael eu gollwng wrth i’r pedwar arall bledio’n ddieuog i’r cyhuddiad ddoe.

Mae’r erlynwyr yn honni bod y pedwar – Haydn Morgan, 42 o Ben-y-bont ar Ogwr, Dean Flowers, 32 o Gaerdydd, Aled James, 26 o Ferndale a Dave Wing, 54, o Gaerdydd – wedi “defnyddio neu fygwth trais anghyfreithlon tuag at ei gilydd”.

Cafodd y pedwar eu rhyddhau ar fechnïaeth ddiamod tan 6 Ebrill pryd y byddan nhw’n ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd.