Mae dros fil o ysgolion ynghau yng Nghymru bore ma yn dilyn eira trwm ar draws Cymru dros nos.

Mae’r eira yn achosi trafferthion mawr ar y ffyrdd, y rheilffyrdd a’r meysydd awyr. Mae Maes Awyr Caerdydd wedi gorfod canslo’r holl deithiau oherwydd y tywydd garw.

Yng ngogledd Cymru mae tua 2,000 o dai heb gyflenwad trydan, yn bennaf yng Ngwynedd hyd at ardal Aberystwyth. Mae tua 850 o gartrefi heb gyflenwad trydan yn y de.

Er bod rhybudd tywydd coch yn ne a chanolbarth Cymru wedi cael ei israddio i rybudd oren, mae’r Swyddfa Dywydd  yn rhagweld y gallai hyd at 50cm o eira ddisgyn yno.

Bydd rhybudd tywydd melyn mewn grym dros rannau helaeth o orllewin Cymru tan ganol dydd, yn sgil pryderon am wyntoedd cryfion o’r dwyrain.

Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl i beidio â theithio os nad yw’n “hollol hanfodol” i wneud hynny.

Dywed Bwrdd Iechyd Hywel Dda bod nifer fechan o glinigau wedi cael eu gohirio ar gyfer dydd Gwener, 2 Mawrth.

“Hoffem ddiolch i gleifion am roi gwybod i ni nad oeddent yn gallu mynychu eu hapwyntiadau oherwydd y tywydd. Mae pob ymdrech yn cael ei wneud i ail-drefnu unrhyw apwyntiadau sydd wedi’u canslo cyn gynted â phosib,” meddai llefarydd ar ran y bwrdd.

Gweddill gwledydd Prydain

Mewn rhannau o Loegr mae gwyntoedd yn hyrddio hyd at 90 milltir yr awr wedi eu cofnodi, ac mae dau lu heddlu wedi gorfod mynd i’r afael ag “achosion dirfawr”.

Yn Hampshire bu’n rhaid i’r fyddin helpu i achub gyrwyr o’r tywydd garw ar yr A31, a ger tref Ilminster mae’n debyg bod 100 o gerbydau yn sownd yn yr eira.

Ers i Storm Emma gyrraedd glannau Prydain ddydd Iau mae llond llaw o bobol wedi eu lladd, gan gynnwys merch saith  oed a gafodd ei tharo gan gar.

“Nid dyma’r diwedd,” meddai swyddog o’r Swyddfa Dywydd. “Mae mwy o eira ar y ffordd, ynghyd â chymysg gaeafol o eirlaw a glaw rhewllyd.”