Mae morlo bach a gollodd ei rieni ac a gafodd ei achub o draeth yng ngogledd Cymru wedi dychwelyd i’r gwyllt ar ôl cyfnod dan ofal yr RSPCA.

Cafodd Jon Snow – y morlo sydd wedi’i enwi ar ôl cymeriad o raglen Game of Thrones – ei achub o Draeth Penrhyn, Llandudno ar Fedi 30.

Roedd wedi treulio tridiau yno heb ei fam, ac mae’n debyg yr oedd y morlo yn wan a heb egni pan wnaeth yr elusen ymyrryd.

Dychwelodd i ddyfroedd y gogledd ar Chwefror 20 ynghyd â dau forlo arall oedd wedi’u hachub, Jamie a Ned.

Dychwelyd i’r dŵr

“Roedd Jon a Jamie yn gyflym dros ben, dw i erioed wedi gweld morloi yn symud mor gyflym – doedden nhw methu aros,” meddai Michelle Bite, un o’r cynorthwywyr wnaeth eu rhyddhau. “Roedd Ned yn llai awyddus ond dilynodd yn fuan.

“Unwaith roedden nhw wedi delio â’r her o basio’r tonau ar y lan, roedden ni’n medru’u gweld nhw’n dwlu ar eu bywyd newydd yn y gwyllt. Gwnaethom ni weld un ohonyn nhw’n bwyta rhywbeth yr oedd wedi’i ddal wedi ychydig o funudau yn y dŵr.”