Mae’r senedd ym Mrasil wedi rhoi caniatâd i roi’r heddlu yn Rio de Janeiro yng ngofal y fyddin.

Roedd llywodraeth ffederal y wlad wedi cyflwyno’r gorchymyn ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, wrth i’r fasnach gyffuriau yn ninas y carnifal droi’n fwy treisgar.

Mae’r hwn wedi ennyn pryderon yn Brasil, gyda nifer yn cael eu hatgoffa am ormes yr unbennaeth filwrol a oedd yn rheoli’r wlad rhwng 1964-1985.

Mae eraill wedyn yn credu mai ymgais yw hwn gan Arlywydd y wlad, Michel Temer, i dynnu sylw rhag ei broblemau gwleidyddol – yn enwedig wrth i’w boblogrwydd yn gyffredinol edwino.

Ond mae’r llywodraeth ffederal yn mynnu eu bod nhw wedi cymryd y cam hwn oherwydd bod y fasnach gyffuriau yn Rio de Janeiro wedi mynd allan o reolaeth, wrth i awdurdodau’r ddinas fethu ag amddiffyn trigolion ac ymwelwyr rhag y trais.

Y fyddin yn rheoli

Ers i’r gorchymyn gael ei gyflwyno ddydd Gwener (Chwefror 17), mae swyddogion y fyddin a’r heddlu wedi bod yn rheoli’r prif ffyrdd sy’n dod i mewn i’r ddinas, a hynny er mwyn atal cyffuriau, arfau a nwyddau wedi’i dwyn rhag cael mynediad.

Mae cerbydau arfog hefyd ar batrôl o gwmpas strydoedd mewn un ardal ym Mae Guanabara, tra bo cychod patrôl yn archwilio’r dyfroedd.

Fe gyhoeddodd yr awdurdodau neithiwr bod 11 person wedi’u dwyn i’r ddalfa, a’i bod nhw wedi cael gafael ar chwe gwn, chwe grenêd a storfa fawr o gyffuriau.