Mae Arlywydd newydd De Affrica yn y broses o gael ei urddo i’r swydd.

Fe fydd Cyril Ramaphosa, 65 oed, yn cymryd yr awenau ychydig oriau ar ôl i’r cyn-Arlywydd Jacob Zuma gael ei orfodi i ymddiswyddo.

Ac yntau wedi dod yn Llywydd plaid llywodraeth yr ANC, Cyril Ramaphosa oedd un o’r rhai a greodd y pwysau mewnol ar Jacob Zuma yn sgil cyfres o honiadau o lygredd.

Ar un adeg, roedd llawer wedi meddwl mai Cyril Ramaphosa fyddai wedi dilyn yr Arlywydd cynta’ ers apartheid, Nelson Mandela, ac mae ei gefnogwyr yn dweud mai ef yw’r dyn perffaith i “achub y wlad” ar ôl naw mlynedd anodd o dan Jacob Zuma.

Y clod a’r amheuon

Ef oedd yn dal y meic pan wnaeth Mandela ei araith gynta’ ers cael ei ollwng o’r carchar yn 1990 ac ef oedd prif drafodwr yr ANC yn y broses o ddileu apartheid a chreu cyfansoddiad newydd.

Er hynny, ac yntau wedi mynd i fyd busnes ar ôl methu â chael yr Arlywyddiaeth ar ôl Nelson Mandela, mae’n un o ddynion cyfoethoca’r wlad ac roedd ar fwrdd cwmni cloddio pan gafodd mwy na 30 o streicwyr eu saethu’n farw.

Roedd hefyd wedi cael ei weld yn un o gefnogwyr Jacob Zuma, cyn dechrau gweithio yn ei erbyn a chael ei wthio gan y gwrthbleidiau yn Ne Affrica i’w ddisodli.